Strategaeth Gwrthryfel Difodiant y DU 2025-26
Dechreuodd XR gydag addewid, a gosodwyd y llwybr ato yn ein tri galwad - mudiad torfol sy'n gallu dod â newid trawsffurfiol, systemig. Mae’r strategaeth hon yn ymwneud â mynd yn ôl at ein gwreiddiau, a defnyddio popeth yr ydym wedi’i ddysgu i wireddu’r addewid hwnnw.
Bron i chwe blynedd yn ddiweddarach, ac yn groes i bob disgwyl, mae Gwrthryfel Difodiant ar ei draed o hyd. Mae pethau wedi newid, oherwydd fe wnaethon ni eu newid. Rydyn ni wedi newid, oherwydd mae pethau wedi newid o'n cwmpas. Mae hynny’n tystio i’r gwydnwch a’r pŵer sy ynom.
Mae prif ffocws y mudiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar fwstro torfol a chodi niferoedd, ond mewn gwirionedd yr ysgogiad ar gyfer newid gwirioneddol, trawsnewidiol yw momentwm diwylliannol. Daw gwir wrthryfeloedd o gymunedau, o berthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, ac o anghydweithrediad creadigol ar y cyd.
Ein gwaith ni yw dod ag anghydweithrediad ar y cyd i’r gynulleidfa ehangach honno, gan greu mudiad torfol o rymuso a gobaith a fydd yn gwrthod ufuddhau.
Cyflawnir y strategaeth hon drwy adeiladu seiliau cymunedol o rym, creu penbleth a chynnen, ailgynnau ein hysbryd creadigol a chreu cyfiawnder hinsawdd i’n gilydd.
Ymunwch â ni i ddarganfod ein map ar gyfer y daith sydd o’n blaenau, i danio a chynnal ysbryd o wrthryfel creadigol, di-drais i darfu a rhoi pwysau ar y rhai sy’n cyflawni’r anghyfiawnder hinsawdd ac ecolegol fel y gallwn yrru newid systemig trwy gyfranogiad cyfartal mewn grym.
Gyda'n gilydd, wedi'n gwreiddio mewn cariad, ni yw popeth sydd ei angen arnom.